Skip to content

Cymraeg

GWASANAETHAU LABELI

Mae PYST yn cynnig ystod eang o wasanaethau i helpu hyrwyddo recordiau. Mae rhain yn cynnwys cymorth i amserlennu ymgyrchoedd, hyrwyddo recordiau ar orsafoedd radio, cylchgronau a’r wê, dosbarthu recordiau i’r byd teledu a ffilm yn rhyngwladol yn ogystal a chyngor marchnata a pharatoi asedau.

DOSBARTHU

Mae PYST yn cynnig gwasanaeth dosbarthu digidol byd eang ar bob platfform perthnasol. Mae hyn hefyd yn cynnwys pitchio recordiau ar gyfer rhestrau chwarae a chefnogaeth olygyddol gan y platfformau hynny. Lle po galw gallwn hefyd gynnig dosbarthu ffisegol byd eang.

BYW

Mae PYST hefyd yn cynnig trefnu a chydlynu teithiau. Rydym yn gweithio gyda amrywiol hyrwyddwyr a chanolfannau yn fyd-eang.